Ffrae iechyd arall yn y senedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi cyhuddo arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol o awgrymu bod sefyllfa debyg i'r un a welwyd yng Nghanol Swydd Stafford yn bodoli yng Nghymru.
Roedd Kirsty Williams wedi gofyn i Carwyn Jones os oedd o'n fodlon sefyll wrth yr hyn ddywedodd ar 26 Chwefror sef y byddai'n gwybod pe bai sefyllfa o'r fath yn digwydd yng Nghymru.
Dywedodd Ms Williams bod prif weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi dweud na allai hi "roi sicrwydd" y byddai hi'n gwybod.
"Os na allai hi roi'r sicrwydd yno - sut gallech chi?" gofynnodd.
Ffrae dros ystyr
Dywedodd Mr Jones bod ei lywodraeth yn monitro'r hyn roedd y byrddau iechyd yn wneud gan ychwanegu: "Dyw hyn ddim yn golygu bod sefyllfa fel canol Swydd Stafford yng Nghymru."
Gwadodd Ms Williams ei bod hi wedi awgrymu hynny.
"Dw i ddim yn awgrymu bod sefyllfa o'r fath yn bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd yma," meddai.
"Dweud ydw wrth y bydden ni a phobl Cymru yn hapusach os fyddai'r system a'r prosesau mewn lle ar gyfer adnabod sefyllfa o'r fath petai'n bodoli."
Dywedodd Mr Jones fod y gweinidog iechyd eisoes yn edrych ar y ffordd mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gweithredu.
Ond yna fe gyhuddodd Ms Williams eto o awgrymu bod sefyllfa o'r fath eisoes yn bodoli yng Nghymru.
'Dim syniad'
Dywedodd: "Dyna'n union mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awgrymu - bod sefyllfa fel canol Swydd Stafford yn digwydd yma."
Er ei bod hi wedi gofyn ei thri chwestiwn yn barod oedd yn golygu nag oedd ganddi felly hawl i siarad eto, cododd Kirsty Williams ar ei thraed.
"Be ddywedais i oedd fy mod i wedi gofyn i chi ar Chwefror 26 os byddech chi'n gwybod petai sgandal debyg yn digwydd yma," meddai.
"Yn amlwg, ni fyddai gan y prif weinidog unrhyw syniad."
Mewn ymateb, dywedodd Carwyn Jones: "Peidiwch â chymryd arnoch nad dyna oeddech chi'n ceisio awgrymu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2013