Tri allan: Collison i mewn
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr canol cae West Ham, Jack Collison, wedi cael ei alw i mewn i garfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Ffindir ddydd Sadwrn.
Daeth yr alwad wedi i dri chwaraewr dynnu nôl o'r garfan oherwydd anafiadau.
Bydd y golwr Boaz Myhill yn absennol oherwydd anafiadau i'w fawd a'i goes, ac mae'r ddeuawd yng nghanol cae - David Vaughan ac Andrew Crofts - wedi gorfod tynnu allan hefyd.
Mae'r anaf yn ergyd arall i Myhill wedi iddo golli ei le yn y tîm ar gyfer y ddwy gêm ddiwethaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd gyda Wayne Hennessey'n cymryd ei le rhwng y pyst.
Fe fydd yn rhyddhad i Chris Coleman nad yw wedi colli yr un o'r enwau mawr yn y garfan wedi gemau'r penwythnos, ac mae Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ashley Williams ymhlith yr enwau fydd ar gael yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Carfan Cymru v. Y Ffindir: Stadiwm Dinas Caerdydd; Tachwedd 16 :-
Golwyr: Wayne Hennessey - Wolverhampton Wanderers (ar fenthyg gyda Yeovil Town), Owain Fôn Williams - Tranmere Rovers.
Amddiffynwyr: James Collins - West Ham United, Ben Davies - Abertawe, Chris Gunter - Reading, Ashley Richards - Abertawe (ar fenthyg gyda Huddersfield Town), Samuel Ricketts - Wolverhampton Wanderers, Neil Taylor - Abertawe, Rhys Wiggins - Charlton Athletic, Ashley Williams - Abertawe.
Canol cae: Joe Allen - Lerpwl, David Cotterill - Doncaster Rovers, Andy King - Leicester City, Joe Ledley - Celtic, Aaron Ramsey - Arsenal, Jack Collison (West Ham United).
Blaenwyr: Gareth Bale - Real Madrid, Simon Church - Charlton Athletic, Jermaine Easter - Millwall, Hal Robson-Kanu - Reading, Sam Vokes - Burnley.
Wrth gefn: Steve Morison - Millwall, Joel Lynch - Huddersfield Town, Harry Wilson - Lerpwl, Shaun MacDonald - AFC Bournemouth, James Wilson - Bristol City (ar fenthyg yn Cheltenham Town), Lloyd Isgrove - Southampton, Owain Tudur Jones - Hibernian
Straeon perthnasol
- 8 Tachwedd 2013