Casnewydd 3-0 Portsmouth
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 3-0 Portsmouth
Mae Casnewydd wedi cyrraedd yr wyth olaf yn Nhlws y Gynghrair wedi iddyn nhw guro Portsmouth ar Rodney Parade nos Fawrth.
Hon oedd y gêm yn wyth olaf rhanbarth y de yn y gystadleuaeth, ac roedd Casnewydd yn feistri o'r cychwyn.
Dim ond pum munud gymrodd Connor Washington i roi'r tîm cartref ar y blaen.
Mor ddiweddar a phum mlynedd yn ôl roedd Portsmouth yn yr Uwchgynghrair tra bod Casnewydd bum cynghrair gyfan islaw'r lefel yna.
Ond Casnewydd wnaeth ymestyn eu mantais wedi 19 munud wrth i Adedeji Oshilaja sgorio'r ail.
Nid bod tîm Justin Edinburgh wedi gwneud pethau'n hawdd iddyn nhw'u hunain.
Wedi 68 munud roedden nhw i lawr i deg dyn pan welodd David Pipe gerdyn coch am drosedd.
Ond fe lwyddodd y deg i'w gwneud hi'n dair pan sgoriodd Washington am yr eildro gyda saith munud yn weddill.