Cynghorwyr i drafod cais dadleuol yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Bydd cynlluniau dadleuol am ddwy archfarchnad yn Aberystwyth yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio Cyngor Ceredigion ddydd Mercher.
Mae siopau Tesco a Marks & Spencer yn rhan o gynlluniau yn y dref allai greu tua 290 o swyddi.
Ond fel rhan o'r cynllun bydd angen dymchwel 12 tŷ yn Heol Glyndŵr ond mae un o'r trigolion - Enid Jones, 57 oed - wedi dweud na fydd yn symud o'i thŷ teras.
Mae' awdurdod wedi pleidleisio o blaid cyflwyno gorchymyn prynu gorfodol i Mrs Jones, ond mae'r penderfyniad terfynol am ddymchwel y tai yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Mae'r siopau yn rhan o gynllun ar faes parcio Ffordd Dan Dre, ac mae'r cais hefyd yn cynnwys wyth o fflatiau a maes parcio arall am 555 o geir.
Dywed y cyngor y gallai'r ddwy siop agor erbyn Rhagfyr 2016, ac maen nhw'n dweud y bydd y datblygiad yn werth rhwng £1.6 miliwn a £3.5 miliwn y flwyddyn i fasnach yn y dref.
Bydd aelodau'r pwyllgor cynllunio yn ymweld â'r safle cyn i'r cyfarfod ddechrau am 1:00pm.
Straeon perthnasol
- 29 Awst 2013
- 23 Mai 2013
- 31 Gorffennaf 2012
- 31 Gorffennaf 2012
- 19 Ebrill 2012
- 15 Tachwedd 2011