Rhaglen i helpu ardaloedd tlawd yn parhau
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen sydd yn helpu pobl yn ardaloedd mwyaf tlawd Cymru yn parhau tan yr etholiad nesaf yn 2016.
Ond mae'r Gweinidog Jeff Cuthbert wedi rhybuddio bod yna "yn anorfod rhywfaint o ansicrwydd" ynglŷn â'r arian sydd yn cael eu rhoi i gynllun Cymunedau'n Gyntaf.
Roedd yna arian wedi ei ymrwymo tan 2015. Erbyn hyn mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y buddsoddiad yn para tan etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016.
Mewn datganiad mae Jeff Cuthbert sydd yn gyfrifol am y portffolio taclo tlodi yn dweud ei bod nhw wedi cyhoeddi hyn am ei bod hi'n bwysig bod cymunedau yn parhau i fod efo hyder yn y rhaglen.
Lleihau'r bwlch
Pwrpas y cynllun yn ôl y llywodraeth ydy lleihau'r bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn y maes addysg, iechyd a sgiliau mewn ardaloedd difreintiedig. Mae 'na 52 o'r ardaloedd yma ar draws Cymru.
Yn y gorffennol mae 'na feirniadaeth wedi bod o'r rhaglen gafodd ei sefydlu yn 2001. Yn 2010 cafodd adroddiad ei gyhoeddi gan un o bwyllgorau'r Cynulliad a oedd yn dweud fod y rhaglen wedi methu sicrhau gwerth am arian.
Cafodd y rhaglen ei ail lansio ym mis Ebrill 2012 i fod yn un sydd yn taclo tlodi. Mi fuodd na newidiadau hefyd i'r cynllun gyda phrosiectau yn cael eu cyfuno.
Pwyso a mesur
Dywedodd y Gweinidog Jeff Cuthbert bod y llywodraeth yn parhau i deimlo bod 'na werth i'r rhaglen:
"Mi fydd yna benderfyniadau i'w gwneud flwyddyn nesaf o ran buddsoddi yn y dyfodol mewn clystyrau unigol. Mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn golygu yn anorfod bod yna rhywfaint o ansicrwydd o ran cyllideb y rhaglen.
"Mi fydd yna werthusiad yn cael ei wneud flwyddyn nesaf ac mae'n bosib y bydd yna wersi i'w dysgu a fedrith gael eu defnyddio i lunio'r rhaglen yn y dyfodol. Mi fydd hefyd o help o ran gwneud penderfyniadau cyllido."
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Hydref 2012
- Published
- 5 Gorffennaf 2011
- Published
- 5 Tachwedd 2013
- Published
- 11 Mawrth 2013