Arian yn cael ei gynnig i gwmni ceir ddatblygu
- Published
Mae na obaith newydd i hen ffatri Hotpoint ym Modelwyddan wrth i gwmni sydd yn cynhyrchu cydrannau ceir gael cynnig arian gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu.
Roedd cwmni Reflex & Allen wedi dweud ei bod nhw'n gobeithio symud i'r hen ffatri beiriannau golchi. Y bwriad oedd y byddai hwn yn rhan o gynllun i greu parc cerbydau.
Fe fyddai tai ac unedau busnes eraill hefyd yn defnyddio'r safle.
Cwmni Hadleigh Industrial Estates fyddai wedi bod yn gyfrifol am y datblygiad, ond oherwydd problemau ariannol ar y funud olaf ni ddigwyddodd y cytundeb.
Nawr mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig buddsoddiad fel bod cwmni Reflex & Allen yn medru symud i'r hen ffatri.
Mi fyddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu offer newydd ac yn ôl y llywodraeth mi fyddai yn diogelu 200 o swyddi yn y tymor hir.
Mae'r Aelod Cynulliad lleol Llafur, Ann Jones wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud:
"'Dw i'n croesawu'r cynllun yma ac yn edrych ymlaen at weld y safle yn datblygu gan greu a gwarchod swyddi sydd wir eu hangen yma ym Modelwyddan.
"Rydyn ni angen mwy o swyddi high-tech yn yr ardal a 'dw i'n gobeithio y bydd cwmnïau eraill yn dangos yr un hyder a Reflex and Allen trwy fuddsoddi yma."
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Mehefin 2013
- Published
- 4 Mehefin 2009