Talu mwy am drydan yng Nghymu: "annheg" medd AS
Gan Daniel Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
- Published
Mae'n "annheg" bod cwsmeriaid yng Nhgymru yn talu mwy am drydan na phobl yng nghweddill Prydain, yn ôl aelod o bwyllgor ynni San Steffan.
Dywedodd AS Ynys Môn Albert Owen wrth rhaglen Y Sgwrs bod rhaid ail-edrych ar gostiau cludiant.
Roedd biliau trydan am gartrefi yng ngogledd a de Cymru yn £503 ar gyfartaledd llynedd, yn ôl ffigurau llywodraeth Prydain - y ddau ranbarth drytaf ar ôl Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Mr Owen: "Os oes gynnom ni 'National Grid', da ni eisiau fo i weithio i Gymru gyfan a dros Brydain. Mae'n annheg i lefydd fel Cymru sy'n cynhyrchu ynni ac yn talu mwy amdano fo".
Mae naw cwmni dosbarthu yn rhedeg y rhwydweithiau sydd yn cysylltu cartrefi a busnesau i'r grid cenedlaethol. Maent yn cynnwys Western Power Distribution yn ne Cymru a SP Energy Networks yn y gogledd.
Mae'r gost o redeg y rhwydwaith yn cael ei gytuno gyda Ofgem, y rheoleiddiwr ynni, ac yn cael ei basio i'r cyflenwyr sydd yn llunio biliau'r cwsmeriaid.
Cefn Gwlad yn ddrytach
Mae tua ugain y cant o fil trydan yn mynd tuag at gostau'r rhwydwaith.
Mae'r Energy Networks Association, sydd yn cynrychioli cwmniau dosbarthu, yn dweud y gall cyflenwi ardaloedd gwledig fod yn ddrytach.
Mae nhw'n dweud bod gosod ceblau o dan y ddaear i ddiogelu ardaloedd o harddwch naturiol hefyd yn gallu cynyddu'r gost.
Dywedodd Mr Owen: "Mae'n rhaid i ni ail-edrych ar hwn, achos fel dwi'n dweud mae'r gost yn mynd i fyny ac i fyny ac mae'n bwysig yn y dyfodol pan 'da ni'n newid i wynt neu rhywbeth arall, mae'n rhaid i ni gael system sydd yn decach."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Energy Networks Association bod cwmniau'n buddsoddi a bod disgwyl i gostau sefyll yn stond neu gwympo dros y degawd nesaf.
Y Sgwrs, S4C, Dydd Mercher, Tachwedd 13eg 9.30yh
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Hydref 2013
- Published
- 4 Hydref 2013
- Published
- 29 Gorffennaf 2013