Ymosodiad ym Maesteg: arestio dau

  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad ar ddyn 42 oed ym Maesteg.

Mi ddigwyddodd yr ymsodiad yn nhŷ'r dyn ar Upper Street bnawn Mawrth a cafodd ei gludo i'r ysbyty oherwydd ei anafiadau.

Mae'r ddau ddyn - ill dau yn 34 oed - yn bobl leol ac wedi eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o ymosod.

Gofynnir i unrhyw un a welodd unrhywbeth amheus yn yr ardal i gysylltu gyda nhw trwy ffonio taclo'r tacle ar y rhif 0800 555111 neu 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol