Cymraes yn wynebu'r gosb eithaf?

Andrea Waldeck
Image caption Ymddangosodd Andrea Waldeck (yn y siwmper goch) gerbron llys yn Surabaya, Indonesia

Fe allai Cymraes wynebu'r gosb eithaf ar ôl iddi gyfaddef smyglo bron 1.5 kilo o'r cyffur crystal meth i mewn i Indonesia.

Roedd Andrea Waldeck, sy'n wreiddiol o Dalgarth ym Mhowys, wedi dweud wrth y llys ei bod wedi cael ei gorfodi i gario'r cyffuriau o China gan ddyn o Nigeria.

Cafodd Ms Waldeck ei harestio ym mis Ebrill wedi i'r heddlu fynd i'w hystafell mewn gwesty.

Fe ddaethon nhw o hyd i dros 1.4 kilo o gyffuriau wedi'i glymu i'w chorff ac yn leinin ei dillad isaf. Fe fyddai gwerth y cyffuriau o'u gwerthu ar y stryd yn ddegau o filoedd o bunnau.

Ymddangosodd Ms Waldeck - a fu'n gweithio am gyfnod fel swyddog cymunedol gyda Heddlu Sir Gaerloyw - yn y llys ddydd Mercher gan siarad trwy gyfieithydd.

Dywedodd bod dyn o Nigeria yr oedd yn ei adnabod fel "Joe" wedi ei bygwth os na fyddai'n cario'r cyffuriau i mewn i Indonesia.

Ond fe gyfaddefodd ei bod wedi smyglo'r cyffuriau i mewn i'r wlad.

Bydd yn dychwelyd i'r llys yn ninas Surabaya ar Dachwedd 25 am wrandawiad arall pan fydd yn cael ei dedfrydu.

Mae gan Indonesia gyfreithiau llym yn erbyn cyffuriau, ac mae menyw arall o Brydain - Lindsay Sandiford - wedi cael ei dedfrydu i farwolaeth drwy saethu am smyglo cocên i mewn i'r wlad.

Mae hi yn y broses o geisio apelio'r ddedfryd, ond bu ei hymgais ddiweddaraf ym mis Awst eleni yn aflwyddiannus.