Dyn yn gwadu llofruddio'i wraig

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd i wynebu cyhuddiad o lofruddio'i wraig.

Mae Kelvin Newton, 45 oed, yn gwadu llofruddio'i wraig Assia, 44, yn eu cartref ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf.

Cafodd Mr Newton ei arestio wedi marwolaeth Mrs Newton, ac fe gafodd driniaeth feddygol cyn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo er mwyn pledio'n euog gerbron y Barnwr Eleri Rees.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar Chwefror 17. Mae disgwyl i'r achos bara am bythefnos.