Tri achos arall o'r frech goch
- Cyhoeddwyd

Mae tri achos arall o'r frech goch wedi dod i'r amlwg yn ardal Castell-nedd ac Abertawe, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).
Cyfanswm yr achosion yn yr ardal bellach yw 39.
Daeth y cyhoeddiad ddiwrnod wedi i ICC a'r tri bwrdd iechyd perthnasol gyhoeddi adroddiad i'r epidemig mwyaf o'r frech goch yng Nghymru a ddaeth i ben rhyw bedwar mis yn ôl.
Yn y cyfnod yna gofnodwyd dros 1,200 o achosion o'r haint yn yr un ardal rhwng Tachwedd 2012 a Gorffennaf 2013, ac roedd yr adroddiad yn rhybuddio bod nifer o bobl ifanc sy'n dal heb eu brechu.
Mae ICC yn parhau i rybuddio rhieni mai'r unig amddiffyniad yn erbyn y frech goch yw cael dau ddos o'r brechiad MMR.
Dywedodd Dr Jörg Hoffmann, ymgynghorydd mewn clefydau heintus gyda ICC: "Mae'n bryderus iawn bod yr achosion yma yn dal i ledaenu.
"Mae hwn yn gallu bod yn glefyd cas ac mae'n hawdd ei atal gyda brechiad effeithiol."
Straeon perthnasol
- 12 Tachwedd 2013
- 7 Tachwedd 2013
- 24 Hydref 2013
- 14 Hydref 2013
- 7 Hydref 2013
- 5 Hydref 2013