Hyfforddi milwrol: Cyfarwyddyd newydd

  • Cyhoeddwyd
MilwyrFfynhonnell y llun, PA MOD
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby yn dilyn yr ymarferiad ym mis Gorffennaf

Fe fydd yn rhaid i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gymryd camau i ddelio gyda phroblemau neu risg a allai godi o ganlyniad i sesiynau ymarfer yn dilyn marwolaeth tri o filwyr ar Fannau Brycheiniog.

Daw'r cyfarwyddyd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch sy'n cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad yn ystod un o ddyddiau poetha'r flwyddyn yn yr haf eleni.

Roedd y tri a fu farw yn filwyr wrth gefn ac yn cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi ar fynydd Pen-y-Fan er mwyn cael eu dewis ar gyfer yr SAS.

Mae ymchwiliad ar y cyd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r heddlu i'r digwyddiad yn parhau.

Ond ddydd Mercher fe wnaeth y gweithgor ryddhau rhybudd yn gorchymyn y Weinyddiaeth i gymryd camau er mwyn mynd i'r afael â'r peryglon allai godi i'r sawl sy'n cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi milwrol.

Cwest

Dywedodd llefarydd: "Mae'r Gweithgor yn parhau i ymchwilio i'r marwolaethu, gan gefnogi Heddlu Dyfed Powys sy'n arwain yr ymchwiliad."

Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn ymarferiad yr SAS ar Fannau Brycheiniog wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5C.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, 24, yn ystod yr ymarferiad a chafodd Edward Maher a James Dunsby, y ddau yn 31, eu cludo i'r ysbyty ond bu farw'r ddau yn ddiweddarach.

Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud ei bod yn gweithredu ar yr holl argymhellion sydd yn y rhybudd: "Am fod yna ymchwiliad yn parhau gan yr heddlu a'r Weinyddiaeth Amddiffyn fyddai hi ddim yn addas i roi sylw pellach."

Mae crwner wedi pennu dyddiadau ar gyfer cwest i farwolaeth y tri ym mis Chwefror a Mawrth y flwyddyn nesaf.