Cap cyntaf i Allen - canfed i Jenkins
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cyhoeddi pedwar newid i'r tîm a gollodd yn erbyn De Affrica y penwythnos diwethaf i wynebu Ariannin ddydd Sadwrn.
Bydd canolwr y Gleision Corey Allen yn ennill ei gap cyntaf, gan lenwi'r bwlch sydd wedi ei adael oherwydd yr anaf i Jonathan Davies.
Bydd y newidiadau eraill yn gweld Justin Tipuric yn y rheng ôl yn lle Dan Lydiate, prop y Scarlets Rhodri Jones yn lle Adam Jones, a Dan Biggar yn cael ei ddewis o flaen Rhys Priestland.
Ond fe fydd llawer o sylw ar brop y Gleision Gethin Jenkins. Fe fydd y pedwerydd Cymro erioed i ennill 100 o gapiau dros ei wlad.
Wrth gyhoeddi'r tîm ddydd Iau, dywedodd Gatland: "Roedd y penwythnos diwethaf yn baratoad da o safbwynt corfforol, gan y bydd hi'n frwydr enfawr yn erbyn Ariannin.
"Fe fyddan nhw'n gobeithio ailadrodd eu llwyddiant y llynedd, ac fe fydd angen i ni fod yn fwy craff er mwyn cael y canlyniad yr ydym yn gobeithio'i gael.
"Ry'n ni wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd yr ydym yn eu creu, ac fe fyddwn ni'n annog y chwaraewyr i chwilio am y bylchau.
"Fe fydd dydd Sadwrn yn achlysur enfawr i Gethin (Jenkins) ac yn garreg filltir anhygoel.
"Ry'n ni wedi gorfod gwneud newidiadau oherwydd anafiadau, ond mae'n gyfle gwych i rai.
"Yn safle'r maswr, y bwriad o'r cychwyn oedd cynnig un gêm yr un i Dan (Biggar) a Rhys (Priestland) ar ddechrau'r gyfres, a thro Dan yw hi'r penwythnos yma."
Un arall allai ennill ei gap cyntaf yw prop y Scarlets Samson Lee sydd wedi ei enwi ymhlith yr eilyddion.
CYMRU v. ARIANNIN: Stadiwm y Mileniwm; Dydd Sadwrn, Tachwedd 16; 2:30pm :-
Olwyr:
15. Leigh Halfpenny (Gleision);
14. George North (Northampton), 13. Cory Allen (Gleision), 12. Scott Williams (Scarlets), 11. Liam Williams (Scarlets);
10. Dan Biggar (Gweilch), 9. Mike Phillips (heb glwb);
Blaenwyr:
1. Gethin Jenkins (Gleision), 2. Richard Hibbard (Gweilch), 3. Rhodri Jones (Scarlets);
4. Bradley Davies (Gleision), 5. Alun Wyn Jones (Gweilch);
6. Sam Warburton (Gleision - capten), 7. Justin Tipuric (Gweilch), 8. Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion:
Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Ryan Jones (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Ashley Beck (Gweilch).
Straeon perthnasol
- 12 Tachwedd 2013
- 12 Tachwedd 2013
- 11 Tachwedd 2013
- 10 Tachwedd 2013
- 10 Tachwedd 2013
- 9 Tachwedd 2013