Rali GB Cymru: Ogier yw'r cyflymaf

  • Cyhoeddwyd
Rali GB CymruFfynhonnell y llun, Rali GB Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cyffro Rali GB Cymru yn y gogledd yn unig am y tro cyntaf eleni

Pencampwr Ralio'r Byd, Sebastien Ogier, oedd y cyflymaf yn rownd gymhwyso Rali GB Cymru fore Iau.

Mae Ogier eisoes wedi sicrhau'r bencampwriaeth am 2013 cyn y cymal olaf yng ngogledd Cymru.

Roedd Volkswagen Ogier 7/100fed eiliad yn gyflymach na Thierry Neuville dros gymal Llandegla fore Iau, ac ef fydd yn dechrau gyntaf yn y cymal swyddogol cyntaf nos Iau.

Mewn amodau anodd fore Iau fe ddaeth glaw, cenllysg a gwyntoedd cryfion dros y cymal.

Mae Neuville yn brwydro gyda Jari-Matti Latvala am yr ail safle ym Mhecampwriaeth y Byd, ac roedd Neuville ymhell ar y blaen i Latvala.

Mae'r cyn yrrwr Fformiwla 1 Robert Kubica wedi ymddangos am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth, ac roedd e'n seithfed.

Bydd seremoni agoriadol swyddogol y rali yn dechrau yng nghysgod Castell Conwy am 6:30pm nos Iau cyn dechrau'r cymal cyntaf ychydig wedi 7.

Bydd y rali yn para tan brynhawn Sul, pan fydd y diweddglo seremonïol yng nghanol tref Llandudno.

Dyma'r tro cynta' i Rali GB Cymru gael ei chynnal yn gyfan gwbl yn y gogledd.

Cymhwyso Rali GB Cymru:

1. Sebastien Ogier = 1'52.708"

2. Thierry Neuville = + 0.070"

3. Evgeny Novikov = + 1.889"

4. Jari-Matti Latvala = + 2.168"

5. Mads Ostberg = + 2.759"

6. Mikko Hirvonen = + 2.979"

7. Robert Kubica = + 3.381"

8. Dani Sordo = +3.483"

9. Andreas Mikkelsen = + 3.732"

10. Martin Prokop = + 6.183"

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol