Menyw ar goll: chwilio adeiladau
- Cyhoeddwyd

Mae heddlu'r de wedi bod yn chwilio am dystiolaeth mewn dau adeilad ar ôl ail gychwyn ymchwiliad i ddiflaniad menyw sydd wedi bod ar goll ers dros 30 mlynedd.
Dyw Susanne Llywellyn-Jones ddim wedi cael ei gweld ers mis Ebrill 1980.
Roedd y fenyw 34 oed wedi dweud ei bod hi am fynd ar y trên i Lundain o Gaerdydd i weld ffrindiau. Ond dyw hi ddim yn glir a gyrhaeddodd hi ai peidio.
Er bod yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani dyw hi ddim wedi cael ei darganfod.
Mae swyddogion wedi bod yn chwilio yn ei chyn gartref ac yn y swyddfa lle'r oedd hi'n arfer gweithio.
Yn ôl yr heddlu mae'r chwilio yn un o'r adeiladau ar ffordd Caerdydd wedi dod i ben a does 'na ddim bwriad i chwilio fanno eto.
Ddechrau mis Tachwedd mi ddywedodd yr heddlu ei bod nhw'n chwilio o'r newydd am Susanne Llywellyn-Jones ac mi gafodd argraff arlunydd o sut y gallai hi edrych rŵan ei gyhoeddi.
Mae dyn 68 oed o Fro Morgannwg wedi cael ei holi ynghylch ei diflaniad ar ôl iddo fynd o'i wirfodd i'r orsaf heddlu ym mae Caerdydd ar y 4ydd o Dachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2013