Awdures o Gymru ar restr mwyaf dylanwadol
- Cyhoeddwyd

Mae merch o Gymru wedi ei chynnwys ar restr y bobl ifanc mwyaf dylanwadol yn y byd.
Cafodd yr awdures Beth Reekles, 18, ei chynnwys ar restr y cylchgrawn Americanaidd Time, am iddi ysgrifennu nofel sydd wedi ei ddarllen dros 19 miliwn o weithiau ar y we.
Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys y ferch ifanc gafodd ei saethu gan y Taliban yn Afghanistan, Malala Yousafzai, a'r canwr, Justin Bieber.
Ysgrifennodd Beth y nofel 'The Kissing Booth' yn ei chartref ger Casnewydd wrth astudio at ei haroliadau Lefel A.
Ers hynny mae Beth wedi arwyddo cytundeb i ysgrifennu mwy o lyfrau, ers i'r nofel ramantus fod mor boblogaidd.
Ac mae Time wedi ei henwi yn y 13eg safle ar restr y bobl ifanc mwyaf dylanwadol ar hyn o bryd.
'Anhygoel'
"Mae'n beth anhygoel i ddigwydd," meddai Beth.
"Yn amlwg dydy fy ngwaith i ddim yn dod yn agos at yr hyn wnaeth Malala, ond mae'n fraint."
Roedd yr awdures, ei henw iawn yw Beth Reeks, yn byw yn Rogerstone ger Casnewydd pan ysgrifennodd y nofel, a rhoddodd ar y we drwy gymuned ysgrifennu ar-lein.
O fewn dyddiau roedd y stori wedi cael ei ddarllen miliynau o weithiau.
Daeth i sylw'r cwmni Random House, sydd wedi rhoi cytundeb i ysgrifennu tri llyfr arall, ond bydd hi'n gwneud hynny tra'n astudio ffiseg ym Mhrifysgol Caerwysg.
"Pan welais y llythyr es i i gnocio ar ddrysau pawb yn fy fflat," meddai.
"Roeddwn i'n gyrru negeseuon i bawb dwi'n eu hadnabod - mae'n beth gwallgof i ddweud y gwir!"