Ymgyrch yn erbyn cau gorsaf dân

  • Cyhoeddwyd
Injan danFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion yn gorffen yn fuan

Mae ymgyrchwyr yn ceisio achub gorsaf dan mewn pentre' lle collodd dau ddiffoddwr eu bywydau 17 mlynedd yn ôl.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n ystyried cau gorsaf dân y Blaenau ym Mlaenau Gwent er mwyn arbed arian.

Gan ddadlau na fydd cau'r orsaf yn cael effaith andwyol ar yr ardal, mae'r gwasanaeth yn dweud bod ei chau yn angenrheidiol wrth iddyn nhw geisio arbed £10m o'r gyllideb.

Ond mae pobl leol yn dadlau y dylid cadw' orsaf yn agored am resymau diogelwch - ac i ddangos parch tuag at y ddau ddiffoddwr fu farw yn 1996.

Marwolaethau trasig

Ceisio achub bachgen roedden nhw'n credu oedd yn sownd mewn tŷ oedd ar dân oedd Kevin Lane, 32, a Stephen Griffin, 42.

Ond roedden nhw wedi cael y wybodaeth anghywir a bu farw'r ddau yn dilyn ffrwydrad anferth yn y tŷ.

Bu farw bachgen pum mlwydd oed yn y tân hefyd, sef Daniel Harford.

Fe gafodd gweddill diffoddwyr yr orsaf ryddid y fwrdeistref fel teyrnged i ddewrder eu cyd-ddiffoddwyr.

Yn ôl y cynghorydd Lisa Winnett mae pobl leol yn credu y byddai cau'r orsaf yn "amharchus" tuag at Mr Griffin a Mr Lane.

"Byddai canlyniadau anferth i fywydau pobl petai'r orsaf yn cau," meddai.

Ychwanegodd y byddai "bywydau'n cael eu rhoi yn y fantol" oherwydd cynnydd yn yr amser fyddai diffoddwyr yn gymryd i gyrraedd llefydd.

Ond dyw'r gwasanaeth ddim yn derbyn bod hyn yn wir.

Emosiwn yn parhau

Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud nad oes disgwyl y byddai neb ychwanegol yn marw mewn canrif drwy gau'r orsaf.

Yn ogystal mae'n dweud y byddai angen gwario chwarter miliwn ar foderneiddio'r orsaf er mwyn ei wneud yn ddiogel i gael ei defnyddio.

Dywedodd y prif swyddog tân Huw Jakeway ei fod yn falch o weld cynifer o bobl oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad.

"Rwy'n credu bod yr emosiwn ynghylch cofio'r digwyddiadau trasig yng ngorsaf Blaenau pan gollon ni ddau ddiffoddwr a phlentyn ifanc mewn tân... mae'r gymuned yn dal i deimlo empathi a chydymdeimlad," meddai.

"Wnes i'n sicr ddim derbyn y swydd hon er mwyn cau gorsafoedd tân" meddai, gan ddweud na fyddai'r risg i bobl Blaenau yn cynyddu o gwbl wrth gau'r orsaf gan ei fod wedi ei gefnogi gan rhai eraill.

Mae cyfle i bobl ddweud eu barn ynghylch y mater drwy ymweld â thudalen arbennig ar wefan y gwasanaeth.

Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan yr awdurdod tan o fewn yr wythnosau nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol