Ogier ar y blaen - Evans yn wych
- Cyhoeddwyd

Enillodd Sebastien Ogier ddau o'r tri chymal cyntaf yn Rali GB Cymru nos Iau i fod ar y blaen ar ddiwedd y diwrnod cyntaf o gystadlu.
Roedd gan Ogier - sydd eisoes wedi sicrhau Pencampwriaeth y Byd 2013 - fantais o 3.2 eiliad dros Thierry Neuville.
Roedd Ogier wedi cymhwyso fel y gyrrwr cyflymaf fore Iau cyn mynd allan ar dân i ennill y ddau gymal cyntaf - Gwydyr a Phenmachno - yn ei Volskwagen.
Tarodd Neuville yn ôl drwy ennill y trydydd cymal arbennig yng Nghlocaenog yn ei Ford Fiesta.
Jari-Matti Latvala oedd yn drydydd gyda Mikko Hirvonen yn bedwerydd yn ei Citroen DS3.
Roedd nos Iau yn un wych i'r Cymro Elfyn Evans hefyd. Mae mab Pencampwr Prydain yn 1996, Gwyndaf Evans, yn arwain Categori 2 o'r rali, ac yn nawfed yn y ras i gyd.
Yn dilyn tri chymal gwych, roedd gan Evans fantais anferth o 13.2 eiliad dros Jari Ketomaa o'r Ffindir yn y ras WRC2.
Fe fydd dydd Gwener yn ddiwrnod heriol i'r cystadleuwyr, gan ddechrau gyda'r daith hir i'r canolbarth i gynnwys cymalau enwog Hafren a Myherin dros 137km gydag ond chwarter awr o gyfnod cynnal a chadw yn Y Drenewydd yn y canol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013