Gwobrau cylchgrawn Selar yn cael eu cynnal yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Bydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar yn cynnal noson wobrwyo am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd y seremoni'n cael ei chynnal yn Aberystwyth ar Chwefror 15, yn dilyn digwyddiad ym Mangor fis Mawrth eleni.
Er bod Y Selar yn cynnal pleidlais i ddewis enillwyr gwobrau'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ers rhai blynyddoedd, dyma'r eildro i noson arbennig gael ei chynnal i rannu'r gwobrau.
Dywed Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, eu bod am adeiladau ar lwyddiant y flwyddyn hon:
"Doedd dim dewis ond parhau â'r prosiect ac ehangu'r digwyddiad eleni - mae'r Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau'n rhoi sgôp i ni wneud hynny, gydag Aberystwyth yn leoliad canolog all ddenu cynulleidfa o bob rhan o Gymru."
Bydd panel o ddeg, yn cynnwys cyfrannwyr a darllenwyr y cylchgrawn, yn dewis rhestr hir o enwebiadau i bob categori. Yna, bydd y cyhoedd yn dewis yr enillwyr drwy bleidleisio.
Ail-greu cyffro
Mae'r cylchgrawn yn gobeithio y gall y nosweithiau dyfu i efelychu llwyddiant nosweithiau Gwobrau Sgrech ddechrau'r 1980au, gan roi cyfle i artistiaid a'u cefnogwyr ddathlu gyda'i gilydd. Medd Owain Schiavone:
"Roedd rhain yn ddigwyddiadau enfawr ac yn binacl blynyddol i'r sin gerddorol ac ar sail y digwyddiad ym mis Mawrth mae rheswm i gredu y gall Gwobrau'r Selar greu yr un math o gyffro."
Bydd rhagor o fanylion, yn cynnwys pwy fydd yn perfformio, yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.