Warburton yn rhoi ffydd yn Allen

  • Cyhoeddwyd
Cory Allen
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Cory Allen ei fod yn sioc cael ei gynnwys yng ngharfan Warren Gatland

Bydd Cymru yn barod am brawf corfforol arall yn ail gêm cyfres yr Hydref ddydd Sadwrn, pan fydd Ariannin yn eu hwynebu yn Stadiwm y Mileniwm.

Bydd Warren Gatland yn gobeithio am berfformiad gwell wedi'r golled yn erbyn De Affrica'r wythnos diwethaf, ond mae'r hyfforddwr heb nifer o chwaraewyr profiadol yn ei dîm oherwydd anafiadau.

Mae Gatland wedi rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc gan gynnwys Rhodri Jones yn y rheng flaen a Cory Allen fydd yn dechrau yng nghanol y cae.

Mae Dan Biggar yn dod i safle'r maswr yn lle Rhys Priestland, tra bod Justin Tipuric yn dechrau yn lle Dan Lydiate.

Cap cyntaf

Un nad oedd yn disgwyl chwarae rhan yn y gêm yw canolwr 20 oed y Gleision, Cory Allen, fydd yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn.

Roedd carfan Cymru eisoes heb Jamie Roberts ar gyfer y gyfres, ond aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth gyda'r newyddion y bydd Jonathan Davies yn methu gweddill y gyfres hefyd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Sam Warburton yn ffyddiog y bydd Allen yn gallu ymdopi hefo pwysau'r gêm ddydd Sadwrn

Er hynny, mae capten Cymru, Sam Warburton wedi rhoi ei ffydd yn y canolwr ifanc i serennu ddydd Sadwrn.

"Mae'n chwaraewr da iawn, mae'n dalentog iawn, a llawer o sgiliau ganddo," meddai Warburton.

"Mae'n ddyn mawr, mae pob un o'r canolwyr sy'n dod i'r tîm y dyddiau yma'r un maint a bechgyn y rheng ôl.

"Dwi'n edrych ymlaen drosto at ddydd Sadwrn, a dwi'n siŵr y bydd o'n delio hefo'r holl sefyllfa yn wych.

"Mae'n un o'r rheiny sydd wedi eu geni i fod ar y llwyfannau mwyaf."

'Sioc'

Dywedodd Allen ei hun nad oedd yn gallu credu iddo gael lle yn y tîm mor sydyn, a'i brif nod ar ddechrau'r flwyddyn oedd cael lle yng ngharfan y Gleision.

"Y nod oedd torri i mewn i dîm y Gleision i ddweud y gwir," meddai.

"Cael lle yn y garfan, gwneud y mwyaf o'r cyfle a cheisio sicrhau lle yn nhîm cyntaf y Gleision.

"Mae hi dal yn sioc fy mod i wedi cael fy lle yn y garfan [Cymru], ac yna i ddechrau'r gêm ddydd Sadwrn, galla i ddim aros."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Sam Warburton yn ffyddiog y bydd Allen yn gallu ymdopi hefo pwysau'r gêm ddydd Sadwrn

'Gornest gorfforol'

Collodd Cymru mewn gêm gorfforol yn erbyn De Affrica wythnos yn ôl, ac mae'r clo Alun Wyn Jones wedi dweud bod y tîm yn barod am ornest gorfforol arall ddydd Sadwrn.

"Bydd Ariannin yn ceisio chwarae mewn modd tebyg, chwarae'n gryf o'r lein a'r sgrym," meddai Jones.

"Nid yw union yr un peth, ond yn y blaenwyr bydd hi'n debyg iawn i chwarae De Affrica.

"Mae ganddyn nhw lawer o unigolion cryf fydd yn ceisio gwneud eu marc yn y gêm."

Prop ifanc y Sgarlets, Rhodri Jones yw un o'r tri yn y rheng flaen fydd yn ceisio delio gyda phac cryf y Piwmas.

Mae'n dechrau wedi i Adam Jones gael anaf yn erbyn y Springboks.

Newidiadau

Mae Ariannin wedi newid pedwar chwaraewr i'r tîm gollodd 31 - 12 yn erbyn Lloegr wythnos yn ôl.

Bydd Santiago Cordero yn ennill ond ei ail gap wrth iddo ddechrau ar yr asgell yn lle Juan Imhoff.

Mae llefydd hefyd i'r clo Manuel Carizza, y mewnwr Martin Landajo a'r cefnwr Joaquin Tuculet yn y tîm fydd yn gobeithio osgoi eu hwythfed colled yn olynol. Dydi'r Ariannin heb ennill ers eu buddugoliaeth dros Georgia ym mis Mehefin.

Ond mae gobaith i'r Piwmas, a bydd Ariannin yn ceisio ailadrodd eu camp y llynedd, pan guron nhw'r Cymry o 26 - 16 yng nghyfres yr Hydref.

Cymru v. Ariannin

Cymru

15. Leigh Halfpenny, 14. George North, 13. Cory Allen, 12. Scott Williams, 11. Liam Williams, 10. Dan Biggar, 9. Mike Phillips; 1. Gethin Jenkins, 2. Richard Hibbard, 3. Rhodri Jones, 4. Bradley Davies, 5. Alun Wyn Jones, 6. Sam Warburton, 7. Justin Tipuric, 8. Toby Faletau

Ariannin

15. Joaquin Tuculet, 14. Horacio Agulla, 13. Marcelo Bosch, 12. Santiago Fernandez, 11. Santiago Cordero, 10. Nicolas Sanchez, 9. Martin Landajo; 1. Marcos Ayerza, 2. Eusebio Guinazu, 3. Maximiliano Bustos, 4. Manuel Carizza, 5. Patricio Albacete, 6. Pablo Matera, 7. Julio Farias Cabello, 8. Juan Manuel Leguizamon