Cyngerdd S4C ar gyfer apêl y Philipinau
- Published
Bydd y canwr byd enwog Paul Potts yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian ar gyfer apêl y Philipinau.
S4C sydd yn trefnu'r cyngerdd nos Sul a bydd y cerddorion Bryn Fôn ac Elin Fflur hefyd yn canu.
Y darlledwr a'r comedïwr Tudur Owen sydd yn cyflwyno'r noson sydd yn digwydd ar faes Sioe Sir Fôn. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar y noson ar S4C.
Mae Teiffŵn Haiyan wedi achosi dinistr enfawr yn y Philipinau gyda mwy na 3,500 o bobl wedi eu lladd ac mae disgwyl i'r ffigwr gynyddu.
Dyma ydy un o'r stormydd mwyaf pwerus sydd wedi cyrraedd y tir erioed ac mae'r mudiadau sydd yn gweithio yno wedi dweud bod y sefyllfa yn 'llwm' i bobl y wlad.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae tua 11 miliwn o bobl wedi eu heffeithio.
Ddydd Mawrth fe lansiwyd apêl gan (DEC Cymru) ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef.
Mae'r elusennau sydd yn gweithio yno yn dweud mai'r flaenoriaeth ydy rhoi bwyd, dŵr a lloches i'r rhai sydd wedi goresgyn.
Hwb i'r apêl
Ond mae 'na gwynion bod y cymorth hwnnw yn araf yn cyrraedd o achos maint y dinistr.
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys yn dweud bod y golygfeydd ar y teledu wedi gwneud i'r sianel feddwl bod angen gwneud rhywbeth i helpu.
"Wrth drafod pa gyfraniad y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo'r apêl am arian, fe ddaeth i'r amlwg bod modd inni lwyfannu cyngerdd ar Ynys Môn nos Sul, ac y gallai hynny ddarparu hwb i'r ymdrechion i godi arian.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i gwmni Rondo am ymateb mor gyflym ac wrth gwrs i'r holl artistiaid sydd wedi ymrwymo i berfformio hyd yma ac eraill sydd wedi cynnig eu cefnogaeth.
"Dwi'n gobeithio y bydd y gyngerdd yn helpu i godi mwy o arian er mwyn lleihau dioddefaint pobl y Philipinau."
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Tachwedd 2013
- Published
- 8 Tachwedd 2013