Damwain: Car yn taro polyn trydan

Mae car wedi troi drosodd ar ôl taro polyn trydan ar yr A482 yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i'r digwyddiad rhwng dau gar a bws mini ychydig i'r gogledd o Lambed am 9.14 fore Gwener.

Mae menyw oedd yn sownd yn ei char wedi cael ei rhyddhau.

Mae'r A482 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Ffordd Forest yn Llanbed a'r B4337 yn Temple Bar yn rhannol oherwydd y car sydd ben i waered ac hefyd oherwydd bod ceblau trydan ar y ffordd.