Gwrthdrawiad A48: Cwpl priod wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r Heddlu wedi cadarnhau bod cwpl priod wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Walford Bennett, 79, a'i wraig Daphne Bennett, 77, o Gydweli yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Caerfyrddin a Cross Hands ger cyffordd Llanddarog, am tua 11.10am fore Gwener.
Mae'r teulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd dau arall ei hanafu yn y digwyddiad ac maen nhw'n cael eu trin yn Ysbyty Glangwili am anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried i fod yn ddifrifol.
Cafodd y ffordd ei chau yn y ddau gyfeiriad rhwng Caerfyrddin a Cross Hands ac mae disgwyl iddo aros ar gau am rhai oriau tra bod y safle yn cael ei harchwilio.
Mae'r ffordd tua'r dwyrain bellach wedi air agor ond mae'r ffordd tua'r gorllewin yn parhau ynghau.
Mae'r Heddlu yn apelio i unrhyw un oedd ar y ffordd ar yr adeg ac a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r Heddlu ar 101.