Rali GB Cymru: Ogier yn feistrolgar
- Published
Mae Sebastien Ogier wedi ymestyn ei fantais ar flaen Rali GB Cymru yn dilyn y cymalau arbennig fore Gwener.
Daeth dechreuad dramatig i'r bore wrth i'r cyn rasiwr Fformiwla 1, Robert Kubica, droi ei gar Citroen ben i waered ar gymal cynta'r bore yn Hafren.
Roedd Ogier a'r ceffylau blaen eraill wedi hen basio, ac roedd y gyrwyr eraill yn cyfadde' bod Volkswagen y Ffrancwr yn rhy gyflym.
Erbyn yr egwyl ginio roedd Ogier wedi agor bwlch o 13.5 eiliad rhyngddo a Jari-Matti Latvala yn yr ail safle.
Cafodd Thierry Neuville fore gwael gan ddisgyn o'r ail i'r trydydd safle, ac mae o bellach dros hanner munud y tu ôl i Ogier.
Oherwydd y ddamwain, mae trefnwyr y rali yn aros i wirio rhai o amseroedd y gyrwyr oedd y tu ôl i Kubica gan gynnwys Elfyn Evans.
Ond maen nhw wedi cadarnhau bod Evans yn cystadlu i fod ar frig Categori 2, ac yn debyg o fod yn y deg uchaf yn y ras gyfan.
RALI GB CYMRU - Safleoedd ar ddiwedd Cymal Arbennig 6 :-
1. Sebastien OGIER - 54'25.8"
2. Jari-Matti LATVALA - +13.5"
3. Thierry NEUVILLE - +35.4"
4. Mads OSTBERG - +57.4"
5. Evgeny NOVIKOV - +1'07.6"
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Tachwedd 2013
- Published
- 14 Tachwedd 2013
- Published
- 14 Tachwedd 2013
- Published
- 17 Mai 2013
- Published
- 25 Ebrill 2013