Damwain awyren ym Mhenarlâg: Dau wedi marw

Maes Awyr Penarlâg crash Image copyright Martyn Jones
Image caption Mi ddigwyddodd y ddamwain amser cinio dydd Gwener

Mae dyn a dynes wedi marw yn dilyn damwain awyren ym Maes Awyr Penarlâg yn Sir y Fflint.

Cafodd yr heddlu wybod am y ddamwain am 1.07pm bnawn Gwener ac mi gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.

Mi fuodd y dyn farw yn y fan a'r lle ac anfonwyd y ddynes i ysbyty Caer, lle buodd hi farw yn ddiweddarach.

Mae adran ymchwiliadau damweiniau awyryn ymchwilio i'r mater.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r heddlu yn ymchwilio ar hyn o bryd ac mae'r Air Accidents Investigation Branch wedi cael gwybod.

"Bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal er mwyn darganfod amgylchiadau llawn y digwyddiad."