Ymosodiad ar drên: yr heddlu yn apelio am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar ddyn sydd yn rhannol ddall ar drên rhwng Abertawe a Chastell Nedd.
Mi ddigwyddodd yr ymosodiad ar 25 o Hydref ar y trên o Abertawe i Ganol Caerdydd. Cafodd y dyn 38 oed o Ben y Bont anafiadau i ochr ei ben ac mi gafodd driniaeth yn yr ysbyty.
Mae un dyn 23 oed o Bort Talbot wedi ei arestio a'i rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y swyddog ymchwilio Yvonne Brown: "Mi oedd hyn yn ddigwyddiad difrifol ac mi ydyn ni yn awyddus i siarad efo unrhyw un oedd ar drên 22.32 Abertawe i Ganol Caerdydd.
"Rydyn ni yn awyddus iawn i siarad gyda menyw rydyn ni yn meddwl sydd wedi gweld yr ymosodiad.
"Os mai chi oedd y fenyw yma, mi fydden ni yn eich annog i gysylltu gyda'r heddlu cyn gynted a phosib fel ein bod ni yn medru gwybod beth wnaethoch chi weld.
"Mi oedd y trên yn brysur iawn y nos Wener honno, sydd yn golygu efallai bod 'na nifer o deithwyr wedi gweld neu glywed rhywbeth a allai fod yn hanfodol ar gyfer ein hymchwiliad."
Gofynnir i unrhyw un a welodd unrhyw beth i gysylltu trwy ffonio'r swyddogion trafnidiaeth ar y rhif 0800 40 50 40 gan roi'r cyfeirnod B6/WSA neu trwy ffonio Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111.