Damwain awyren ym Mhenarlâg: arbenigwyr yn ymchwilio
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn ymchwilio i achos damwain awyren wnaeth ladd dyn a dynes yn Sir y Fflint bnawn Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i'r ddamwain ym Maes Awyr Penarlâg toc wedi 1.00pm.
Roedd y dyn, sydd yn cael ei enwi yn lleol fel Gary Vickers, wedi marw yn y fan a'r lle.
Cafodd y ddynes ei hanfon i'r ysbyty lle y buodd hi farw.
Mae adran ymchwiliadau damweiniau awyr yn trio darganfod beth ddigwyddodd.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu'r gogledd mai'r adran yma fydd yn arwain yr ymchwiliad a bod y crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mi wnaethon nhw ychwanegu nad oedden nhw yn medru enwi'r ddau sydd wedi marw ar hyn o bryd.
Bydd yr adran ymchwiliadau damweiniau awyr yn parhau efo'i gwaith ar y safle cyn y bydd gweddillion yr awyren yn cael ei symud i bencadlys yr adran yn Lloegr.
Straeon perthnasol
- 15 Tachwedd 2013