Dathlu penblwydd Doctor Who: Y Tardis yn teithio Cymru
- Cyhoeddwyd
Am un wythnos yn unig mae cyfle i bobl sydd wrth eu boddau efo Doctor Who i gael gweld y bocs ffôn eiconig, y Tardis mewn lleoliadau gwahanol ar draws Cymru.
Mae'r tardis yn ymddangos yn y gyfres deledu boblogaidd ac yn medru cludo pobl i unrhyw le yn y bydysawd a hynny ar unrhyw gyfnod gan ei fod yn beiriant amser.
Bydd y bocs yn ymddangos mewn wyth o drefi a dinasoedd dros nos gyda'r lleoliadau yn cael eu datgelu ar twitter bob bore.
Caergybi, Ynys Môn oedd y lleoliad cyntaf fore Sadwrn a Chaerdydd fydd y lleoliad olaf.
Mae'r daith wedi ei drefnu am fod Doctor Who yn dathlu 50 mlynedd ers i'r gyfres ymddangos ar y teledu eleni.
Yng Nghymru mae'r rhaglen yn cael ei chynhyrchu a hynny gan BBC Cymru Wales.
Bydd rhaglen ben-blwydd arbennig yn cael ei darlledu ar Dachwedd 23 gyda'r Doctor presennol, Matt Smith, a'r cyn-Ddoctor, David Tennant, yn ymddangos.
Yn ôl Brian Minchin, Uwch Gynhyrchydd y gyfres: "Dyma gyfle unigryw i wylwyr Doctor Who ar draws Cymru ddod wyneb yn wyneb â'r TARDIS a bod yn rhan o'r dathliadau'r pen-blwydd."
The Day Of The Doctor, Tachwedd 23, BBC 1 Wales