Buddugoliaeth rwydd i Gymru

Mike Phillips Wales try Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mi gafodd Mike Phillips gais yn ystod y gêm

Cymru 40- 6 Ariannin

Mae tîm Cymru yn dathlu ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Ariannin.

Mi gafodd Cymru bedair cais- un gan Mike Phillips, un arall gan yr asgellwyr George North a dwy ar ôl yr hanner cyntaf gan rif wyth Toby Faletau a Ken Owens.

Mi lwyddodd Leigh Halfpenny i gicio yn gywir gan fethu dim ond un gic yn ystod y gêm.

Ni chafodd yr Ariannin unrhyw geisiau gyda'r pwyntiau i gyd yn dod trwy gicio.

Mi oedd hon yn gêm allweddol i Gymru am fod nifer o'r chwaraewyr yn methu chwarae yn sgil anafiadau gan gynnwys Adam Jones a Jonathan Davies.

Rhoddwyd cyfle i chwaraewyr ifanc, Samson Lee a Cory Allen, gyda'r ddau yn ennill eu cap cyntaf dros eu gwlad.

Roedd hi'n gêm fawr i'r prop Gethin Jenkins hefyd wrth iddo ef gael ei ganfed cap.

Dyma'r fuddugoliaeth gyntaf adref i Gymru ers pedair blynedd.

Mi fyddan nhw yn wynebu Tonga nos Wener. Ond mae'r her fawr i ddod yn erbyn Awstralia.

Straeon perthnasol