Mesur tai yn cael ei gyhoeddi er mwyn taclo landlordiaid drwg
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i fesur fydd yn mynd i'r afael â landlordiaid diegwyddor gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen.
Dyma fydd y ddeddf gyntaf yn y maes tai ers i Lywodraeth Cymru gael pwerau deddfu llawn yn 2011.
Yn ôl y llywodraeth mi fydd y mesur yn taclo'r broblem o ddigartrefedd, yn gwella amodau yn y sector rhentu preifat ac yn golygu y bydd 'na fwy o dai ar gael i bobl brynu neu rentu.
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ym mis Mai 2012.
Yn y papur gwyn mae 'na gynnig i orfodi perchnogion tai i arwyddo cofrestr cyn bod modd iddyn nhw osod tai ar rent.
Dim llais
Mae'r papur, sydd yn dweud beth ydy bwriad y ddeddf, yn dweud bod yna rhai landlordiaid drwg yn gweithio yn y sector preifat.
Maen nhw'n rhoi tenantiaid mewn sefyllfa anodd gan fygwth weithiau eu taflu nhw o'u tai.
"Mae hynny, a'r ffaith bod gyda nhw ddim llawer o opsiynau, yn golygu bod nifer o bobl - yn aml bobl fregus - yn dioddef heb godi eu llais," medd y papur gwyn.
"Mewn rhai achosion mae landlordiaid ac asiantaethau yn codi rhent ac yn ychwanegu costau."
Cynnig arall yn y papur gwyn yw addewid i daclo'r broblem o dai gwag sydd yn bodoli yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i wneud hyn drwy roi'r pwerau i gynghorau godi treth y cyngor ar adeiladau sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn.
Mwy o fanylion
Ers i'r papur gwyn gael ei gyhoeddi mae gweinidog newydd wedi dod yn gyfrifol am y portffolio.
Huw Lewis oedd y Gweinidog Tai ychydig fisoedd yn ôl, ond mae o yn Weinidog Addysg bellach ar ôl i Leighton Andrews ymddiswyddo ym mis Mehefin.
Yn ôl ym mis Mai dywedodd Huw Lewis: "Mae hyn yn lot mwy na jest rhoi cartref i rywun.
"Mae materion tai yn effeithio ar les ac iechyd pobl a'u gallu i fedru dod o hyd i waith a pharhau i weithio."
Carl Sargeant sydd erbyn hyn â'r cyfrifoldeb am faterion tai ac mi fydd o yn datgelu mwy o fanylion y mesur yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2013
- 6 Tachwedd 2013
- 27 Medi 2013
- 26 Medi 2013
- 17 Medi 2013
- 16 Gorffennaf 2013