Ogier: pencampwr rali GB
- Published
image copyrightRali GB Cymru
Y Ffrancwr Sebastien Ogier sydd wedi ennill pencampwriaeth rali GB eleni.
Dyma'r nawfed waith i'r dyn fod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.
Mae o wedi cystadlu 13 o weithiau. Dim ond Sebastien Loeb sydd efo record well na fo.
Thierry Neuville ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.
Roedd y rali yn cael ei chynnal yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf gan orffen yn Stryd y Mostyn Llandudno. Mae'r trefnwyr wedi dweud bod y niferoedd sydd wedi dod i wylio'r cystadlu wedi bod yn uchel.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Tachwedd 2013
- Published
- 17 Tachwedd 2013
- Published
- 15 Tachwedd 2013