Comisiynydd: dim datganoli pwerau plismona

  • Cyhoeddwyd
Police Commissioner Christopher SalmonFfynhonnell y llun, Welsh Conservatives
Disgrifiad o’r llun,
Mae Christopher Salmon yn dadlau bod ei rôl o fel comisiynydd yn golygu bod pwerau plismona wedi eu datganoli yn barod

Does dim angen datganoli mwy o bwerau plismona i Lywodraeth Cymru yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.

Ar raglen wleidyddol BBC Cymru, The Politics Show Wales mi ddywedodd Christopher Salmon y byddai gwneud hyn yn golygu costau ychwanegol ac mi allai wneud y system yn fwy cymhleth.

Mae'n dadlau bod sefydlu comisiynwyr flwyddyn yn ôl wedi golygu bod pwerau yn barod wedi eu datganoli.

"Mae'r holl benderfyniadau plismona yn cael eu gwneud yma gan wleidyddion sydd yn cael eu hethol gan bobl Cymru."

Dydy o ddim yn gweld unrhyw fudd mewn datganoli'r maes i fae Caerdydd gan ddweud na fyddai gwneud hyn yn dod ac unrhyw fanteision o ran lleihau troseddu.

"Dw i'n meddwl bod y rôl comisiynwyr wedi golygu bod pobl yn medru cael atebion yw problemau yn lleol.

"Dw i'n atebol i fy mhleidleiswyr yn Nyfed Powys a ddim i dargedau sydd yn cael eu gosod yn ganolog."

Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas oedd hefyd ar y rhaglen yn anghytuno efo Christopher Salmon. Yn ôl y gwleidydd Plaid Cymru mi fydd gan Gymru system gyfiawnder ei hun erbyn 2020.

Mae Comisiynydd De Cymru, Alun Michael hefyd yn y gorffennol wedi cefnogi'r alwad i ddatganoli pwerau plismona i'r cynulliad.