Gareth Bale: A fydd yn chwarae mewn gemau cyfeillgar?
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd Gareth Bale yn cael ei orffwys yn lle chwarae gemau cyfeillgar i Gymru yn y dyfodol.
Chwaraeodd Bale y gêm gyfan yn erbyn y Ffindir nos Sadwrn.
Mae rhai yn credu y buasai ei dim newydd, Real Madrid, yn ceisio cwtogi ei ymrwymiad i garfan Cymru, er bod Chris Coleman wedi dweud nad yw hyn yn gywir.
Mae ei sefyllfa wedi cael ei chymharu â gyrfa Ryan Giggs.
Pur anaml oedd Giggs yn chwarae gemau cyfeillgar dros ei wlad, ac mae Coleman yn dweud y gall y sefyllfa cael ei ail-adrodd gyda Bale, sydd wedi chwarae 43 gêm i Gymru.
Ym mis Medi, symudodd Bale o Tottenham Hotspur i Real Madrid am £85.3 miliwn, y pris dryta' erioed am chwaraewr pêl-droed.
Tymor hir
Meddai Coleman: "I fod yn deg, ond un gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico mae e wedi methu dros y ddwy flynedd diwethaf ac roedd hynny oherwydd anaf i'w gefn.
"Mae'n chwarae nifer fawr o gemau i Madrid ac mae'n rhaid i ni edrych ar y tymor hir - er ein bod ni wir ei angen o, mae'n rhaid i ni edrych ar ei ôl.
"Os ydi o'n holliach, 'da ni'n disgwyl iddo droi i fyny, ond os ydyw wedi blino, yn gorfforol neu feddyliol, ella er fy mod wirioneddol eisiau fo ar y cae, bydd rhaid rhoi seibiant iddo.
"Ond mae'n debyg y bydd yn deud ei fod eisiau chwarae ym mhob gêm."
"Wrth edrych ar y darlun mawr, efallai byd rhaid deud wrtho, 'does dim rhaid i ti chwarae yn y gêm yma.'
"Mae'n dibynnu ar bwy 'da ni'n chwarae a pwy ma' Madrid yn chwarae."
Blinder
Ychwanegodd Coleman, : "Os ydi'r gêm gartref, mae'n neis i'r cyhoedd ei weld o yma.
"Os da ni'n chwarae oddi cartref ac mae o wedi blino, er efallai ei fod yn ffit mi fuasai'n rhaid trafod y sefyllfa."
Mi fydd Chris Coleman ac aelodau o'i staff cynorthwyol yn mynd draw i Sbaen i gyfarfod Real Madrid a'u hyfforddwr, Carlo Ancellotti.
Meddai Coleman: "Siaradais gyda Gareth ddydd Gwener, ac rydym yn mynd draw i gyfarfod staff Madrid.
"Mae'n rhaid iddyn nhw deimlo'n gyfforddus pan ddaw atom, eu bod yn deall sut rydym yn paratoi oherwydd ei fod ar raglen arbennig ym Madrid sy'n helpu gyda'i adferiad corfforol.
"Rhaid i Madrid teimlo'n gyfforddus ein bod yn neud bob dim i'w yrru yn ôl mewn un darn."
Straeon perthnasol
- 17 Tachwedd 2013
- 15 Tachwedd 2013
- 15 Medi 2013