Derek Pontin: Corff wedi ei ddarganfod ger Pontllanfraith
- Cyhoeddwyd

Mr Pontin aeth ar goll ar Tachwedd 7ed
Mae'n debyg mai corff dyn sydd wedi bod ar goll am ddyddiau, sydd wedi cael ei ddarganfod yn ardal Pontllanfraith.
Credir mai corff Derek Pontin 81, a ddiflannodd o'i gartref yny Coed Duon dros wythnos yn ôl ydyw er nad yw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.
Yn ôl yr heddlu does yna ddim amgylchiadau amheus am y farwolaeth ac maen nhw'n rhoi cefnogaeth i'r teulu.
Gwelwyd Mr Pontin am y tro olaf ar Stryd y Bont, Y Coed Duon ger Caerphilly, rhwng 3:30 a 4:00pm ar ddydd Iau, Tachwedd 7.
Roedd yn gwisgo het trilby, cot lliw khaki ac yn cario pecyn ar ei gefn.