BBC Cymru Fyw

Dyn o Landudno wedi ei ddarganfod yn ddiogel

Published
image copyrightHeddlu Gogledd Cymru
image captionDoes neb wedi gweld David Richard Owen ers dydd Sadwrn

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod dyn o ardal Llandudno oedd ar goll wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel.

Roedd ditectifs wedi gwneud apêl am wybodaeth am David Richard Owen, 46, ar ôl iddo ddiflannu ddydd Sadwrn.

Ond cadarnhaodd yr heddlu fod Mr Owen wedi cael ei ddarganfod yn ddiogel nos Lun ar ôl cytuno i gwrdd â swyddogion lleol.