Gweithwyr 'anghyfreithlon' wedi eu harestio mewn bwytai

  • Cyhoeddwyd
Mewnfudwyr anghyfreithlon
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gweithwyr eu harestio mewn dau gyrch gan swyddogion mewnfudo

Mae dau fwyty yn wynebu dirwyon o ddegau o filoedd o bunnau wedi i nifer o weithwyr anghyfreithlon cael eu cymryd i'r ddalfa.

Cymerwyd pedwar o bobl i'r ddalfa ar amheuaeth eu bod yn gweithio'n anghyfreithlon mewn bwytai yn Abertawe a Phorthaethwy ar Ynys Môn mewn cyrch gan swyddogion.

Ar ddydd Iau, Tachwedd 7, arestiwyd tri dyn 28, 31, a 57 oed o dras Bangladesh, ym mwyty Taste Of India, ym Mhorthaethwy.

Roedd fisa gwaith y dynion 31 a 57 oed wedi rhedeg allan.

Yn ogystal arestiwyd y ddau ohonynt ar amheuaeth o ddwyn manylion personol. Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.

Nid oedd gan y gŵr 28 oed hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, ond mae o wedi ei ryddhau dros dro ar yr amod ei fod yn cadw mewn cysylltiad â'r Swyddfa Cartref ynglŷn â'i achos.

Ail Gyrch

Ar ddydd Gwener, Tachwedd 8, am 5.30pm, ymwelodd swyddogion â bwyty bwyd parod Tseineaidd, Eastern Express, ar Ffordd Porth Tennant yn Abertawe.

Yno arestiwyd dynes Tsieineaidd 51 oed oherwydd bod ei fisa gwaith wedi rhedeg allan.

Mae hi ar hyn o bryd yn y ddalfa yn disgwyl cael ei chludo allan o'r wlad.

Mae Taste of India a Eastern Express wedi derbyn rhybudd eu bod yn wynebu dirwyon o hyd at £10,000 am bob un gweithiwr anghyfreithlon maent yn eu cyflogi.

Neges glir

"Mae gweithwyr anghyfreithlon yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau," meddai Richard Johnson, o dîm gorfodaeth mewnfudwyr Swyddfa Cartref Cymru.

"Mae'r neges yn glir i gyflogwyr yng Nghymru sy'n defnyddio gweithwyr anghyfreithlon. Mi fyddwn i yn eich dal ac mi fyddwch yn wynebu cosb drom.

"Mae trethdalwyr yn cael eu twyllo yn ogystal â'r sawl sy'n chwilio am waith."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol