Nain April Jones yn croesawu cynllun
- Cyhoeddwyd
Mae nain April Jones wedi croesawu cynllun Google a Microsoft i'w gwneud hi'n anoddach i ddod o hyd i ddelweddau o blant yn cael eu camdrin ar y we.
Cafodd April, 5 oed, o Fachynlleth, ei llofruddio gan Mark Bridger ym mis Hydref y llynedd wedi iddo edrych ar ddelweddau o'r fath ar ei gyfrifiadur.
Dywedodd Lyn Smith wrth BBC Radio 5 Live y bore 'ma, fod y penderfyniad i weithredu yn "beth da".
Ond roedd hi'n pryderu na fyddai modd cael gwared ar yr holl ddelweddau anweddus ar y we: "Dydw i ddim yn gwybod os ydi hyn yn ddigon, ond mae'n ddechrau. Rwy'n falch bod David Cameron yn rhan o hyn."
Mae Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, ymysg y rhai sy'n croesawu'r newid:
"Rwyf wedi trafod y mater gyda David Cameron ac wedi ei annog i gwrdd â'r prif wefannau chwilio. Mae'r prif weinidog hefyd wedi cyfarfod rhieni April Jones, Paul a Coral, sydd eu dau wedi ymgyrchu dros y newidiadau hyn.
"Rwy'n llongyfarch Google a Microsoft am gydweithio ar pwnc hynod sensitif."
Meddalwedd newydd
Ni fydd hyd at 100,000 o dermau chwilio ar Google a Bing yn cyflwyno canlyniadau bellach a bydd neges yn cel ei dangos yn dweud bod delweddau o gamdrin plant yn anghyfreithlon.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi croesawu'r penderfyniad, ond fe ddywedodd y byddai'n ystyried cyflwyno deddf newydd, os na chaiff y mesur ei weithredu.
Pryder arbenigwyr ar warchod plant yw bod y rhan fwyaf o'r deunydd anweddus ar rwydweithiau cudd.
Yn ôl cyfarwyddwr cyfathrebu Google, Peter Barron, mae'r newidiadau'n ei gwneud hi'n "llawer, llawer anoddach i ddod o hyd i gynnwys fel hyn ar-lein".
Bydd y mesurau'n dod i rym yn y DU yn gyntaf, cyn cael eu cyflwyno mewn gwledydd eraill a'u datblygu mewn 158 o ieithoedd dros y chwe mis nesaf.
Fe ymunodd Google a Microsoft mewn cynhadledd ar ddiogelwch ar y we yn Stryd Downing yn gynharach.
Y cam nesaf, yn ôl David Cameron, fydd targedu'r gwefannau sy'n rhannu delweddau, ond ddim yn eu cyhoeddi.
Straeon perthnasol
- 18 Mehefin 2013
- 5 Mehefin 2013
- 22 Gorffennaf 2013