Cyhoeddi mesur i wella'r sector tai
- Published
Mae'r Gweinidog Tai, Carl Sargeant wedi cyhoeddi mesur "uchelgeisiol" i geisio gwella amodau yn y sector tai.
Fel rhan o'r ddeddf, bydd rhaid i bob landlord preifat arwyddo cofrestr, fydd yn cynnwys prawf i brofi a yw'r person yn addas i fod yn rhentu eiddo.
Bydd mwy o ddyletswydd ar awdurdodau lleol i geisio lleihau digartrefedd, gyda gofyn i gynghorau weithredu o fewn amser penodol.
Mae'r mesur hefyd yn cynnwys newidiadau i geisio lleihau nifer y cartrefi gwag.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud nad ydy'r mesur yn gwneud digon i wella'r "argyfwng" yn y galw am gartrefi.
Gwella amodau
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ym mis Mai 2012, ond cafodd mwy o fanylion eu datgelu gan y Llywodraeth ddydd Llun.
Dywedodd y llywodraeth eu bod am "godi safonau" yn y sector rhentu preifat, gan fod rhai landlordiaid ddim yn gweithredu mewn ffordd deg.
Bydd yn rhaid i bob landlord ac asiant ymuno â chofrestr newydd fel rhan o'r mesur, a bydd prawf i sicrhau bod y person yn addas i osod tai ar rent.
Bydd dirwyon yn cael eu rhoi i unrhyw un sy'n gwrthod cydymffurfio.
Mae cofrestr wirfoddol yn bodoli ar hyn o bryd, ac mae'r llywodraeth yn dweud na fydd y newidiadau yn broblem i landlordiaid da.
Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am y cofrestrau, gyda Chyngor Caerdydd yn gweinyddu'r system ar ran yr holl gynghorau.
Lleihau digartrefedd
Mae'r mesur yn ceisio mynd i'r afael â nifer o broblemau yn y sector tai, gan gynnwys digartrefedd.
Ar hyn o bryd mae gofyn i gynghorau roi cymorth i bobl sydd o fewn 28 diwrnod o fod yn ddigartref.
Bydd y cyfnod yma yn cynyddu i 56 diwrnod, mewn gobaith o arbed arian drwy leihau'r nifer sy'n mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf.
Mae disgwyl i'r newidiadau ddod i rym yn 2015.
Mae'r mesur yn cynnwys newid arwyddocaol i'r dreth fydd rhaid ei thalu ar gartrefi gwag, er mwyn ceisio cynyddu'r nifer o gartrefi sydd ar gael i bobl fyw ynddyn nhw.
Bydd gan gynghorau'r hawl i gynyddu'r dreth cyngor i 150% ar dai sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn, ar wahan i'r rheiny sydd yn y lluoedd arfog neu mewn gofal.
Roedd Plaid Cymru wedi galw am roi treth o 200% ar ail gartrefi, ond nid yw hyn wedi ei gynnwys.
Ymysg y newidiadau eraill sydd wedi eu cyflwyno, bydd dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu'r galw a chynnig tir i gymunedau sipsi.
'Cartref yn hanfodol'
Dywedodd Carl Sargeant, "Mae cartref cysurus, fforddiadwy yn rhan hanfodol o fywyd pawb. Mae'r manteision yn mynd tu hwnt i'r to sydd uwch ein pennau - mae'n ganolog i iechyd a lles pawb.
"Mae cartrefi da'n rhoi'r cychwyn gorau posibl i blant ac yn sylfaen ar gyfer cymunedau cryf, diogel a theg.
"Maen nhw'n bwysig i'r economi hefyd. Wrth adeiladu tai newydd a gwella'r tai sydd gennym eisoes, rydym yn creu swyddi, prentisiaethau a chyfloed hyfforddi gwerthfawr.
"Er gwaethaf effeithiau'r mesurau caledi a phenderfyniadau cyllidebol Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o wella'r cyflenwad tai, ei ansawdd a'i safon ac mae cynigion y Bil Tai hwn yn hollbwysig ar gyfer cyflawni hynny."
'Ddim digon pell'
Yn ymateb, mae'r Ceidwadwyr wedi dweud nad ydy'r mesur yn mynd ddigon pell.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar gymunedau a tai, Mark Isherwood AC: "Mae'r lleihad yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu o dan y blaid Lafur ers 1999 wedi achosi argyfwng yn y galw am gartrefi.
"Mae miloedd o deuluoedd ar restrau aros am gartrefi addas ac mae llawer o bobl ifanc yn methu prynu tai am y tro cyntaf."
Dywedodd Mr Isherwood bod cynlluniau'r llywodraeth yn creu risg o gosbi landlordiaid da a chadw pobl rhag rhentu yn y sector breifat.
"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn wrthblaid adeiladol ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynigion rydym wedi eu cyhoeddi i gynyddu'r cyflenwad o dai drwy ddod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd.
"Rydym yn cydnabod y camau cadarnhaol yn y mesur i daclo digartrefedd a darparu tir i anghenion cymunedau sipsi a theithwyr.
"Yn anffodus ychydig iawn mae'r cynlluniau yma yn eu gwneud i daclo argyfwng cyflenwad tai'r blaid Lafur , sydd wrth wraidd rhestrau aros uchel dros ben a gorlenwi."
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Tachwedd 2013