Dirwy am carthffosiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi cael dirwy o £1,000 am adael i garthffosiaeth oedd heb ei drin lifo i afon Dwyfor ym Mhen Llŷn.
Clywodd Llys Ynadon Dolgellau fod lefel carthffosiaeth bedair gwaith yn uwch na'r hyn sy'n cael ei ganiatáu yn ardal Llanystumdwy ger Cricieth a hynny dros gyfnod o saith mis.
Fe wnaeth y llys hefyd orchymyn Dŵr Cymru i dalu costau o £2,2248 am y digwyddiad.
Dywedodd Neil Evans ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn erlyn yr achos, nad oedd yna ddifrod i'r amgylchedd ond y dylai'r mater fod wedi cael ei ddatrys yng nghynt.
Clwydodd y llys fod braster wedi achosi problemau i bibellau Dŵr Cymru, pibellau oedd fod i gludo carthffosaeth i danciau penodol mewn cyfnod o law trwm a stormydd.
Ond oherwydd y braster roedd y carthffosiaeth yn llifo i'r afon yn hytrach nac i'r tanciau.
Dwedodd Dŵr Cymru eu bod wedi anfon llythyrau i hyd at 400 o gwsmeriaid yn ardal Llanystumdwy yn eu rhybuddio o broblemau braster.