NSPCC yn derbyn galwaydau gan bron i 2,000 o blant

  • Cyhoeddwyd
Gwenda Thomas
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd egwyddorau cyffredinol mesur Llywodraeth Cymru eu derbyn ym mis Hydref yn dilyn dadl yn y Siambr

Yn ôl elusen mae tua 10% o blant rhwng 11 ac 17 wedi dioddef cael eu cam-drin yn ystod eu bywydau - ac mae'r nifer sy'n cysylltu a'r NSPCC yn cynyddu.

Fe gafodd achosion yn ymwneud â 1,905 o blant eu cyfeirio at yr awdurdodau lleol gan yr elusen yng Nghymru rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2013.

Yn y cyfnod yma, fe gafodd 1,099 galwad allan o gyfanswm o 1,927 o alwadau i'r NSPCC eu cyfeirio at yr awdurdodau.

Roedd 46% o'r rhain yn ymwneud ag esgeulustod - y gyfradd uchaf o fewn y DU.

Roedd bron i hanner o'r cyfeiriadau yn ymwneud â phlant o dan chwech oed gafodd eu darganfod yn byw mewn amodau gwael neu'n byw gyda rhieni oedd yn eu hesgeuluso'n emosiynol.

Yn ogystal fe wnaeth yr elusen dderbyn 15% yn fwy o alwadau'r flwyddyn ddiwethaf o'i gymharu â'r flwyddyn cynt.

'Mwy nag erioed yn cysylltu'

Dywedodd Des Mannion, pennaeth yr NSPCC yng Nghymru: "Mae astudiaeth yr NSPCC wedi darganfod bod tua un mewn deg o blant rhwng 11 a 17 wedi dioddef o esgeulustod rhywbryd yn ystod eu bywydau.

"Ond nawr mae mwy nac erioed o bobl yn cysylltu gyda'r NSPCC oherwydd esgeuluso plant.

"Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y cyhoedd yn fwy parod i chwythu'r chwiban - sydd yn beth da - ond mae'n glir fod yna duedd pryderus, nid yn unig o fewn ein ffigyrau ni ond o asiantaethau a chyrff eraill."

Mae Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru yn cael ei ystyried gan bwyllgorau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Diben y mesur yw ei gwneud hi'n haws i asiantaethau i gadw trac a rhoi cymorth i bobl fregus yn ogystal â rhoi mwy o bwerau i awdurdodau ymyrryd pan maen nhw'n meddwl bod rhywbeth o'i le.

Dywedodd Mr Mannion y byddai'r NSPCC yn gweithio gyda'r llywodraeth er mwyn ceisio sicrhau bod plant sy'n cael eu hesgeuluso yn cael eu darganfod, a'u bod yn derbyn y cymorth cywir.

Cydweithio

"Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ystod yr ymgynghoriad i'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant na all wasanaethau cymdeithasol fod yn gynaliadwy heb i bobl ymyrryd yn gynt," meddai Mr Mannion.

"Ond mae arolwg y NSPCC yn dangos bod pobl broffesiynol yn teimlo nad yw plant sy'n cael eu hesgeuluso yn derbyn y cymorth maen nhw ei angen mewn pryd.

"Rydym yn falch felly i fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Action for Children ar ffyrdd i wella'r ffyrdd mae plant yn derbyn y cymorth maen nhw ei angen."

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, arwain dadl ar y mesur yn y Cynulliad ar 8 Hydref.

Dywedodd y byddai'r mesur yn "gweld pobl fel pobl".