Y Bae'n colli gêm ailchwarae
- Cyhoeddwyd

Bae Colwyn 0-2 Altrincham
Colli wnaeth Bae Colwyn yn Nhlws yr FA nos Fawrth mewn gêm gafodd ei hail-chwarae mewn amgylchiadau dadleuol.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gorchymyn y dylid ailchwarae'r gêm rhwng Bae Colwyn ac Altrincham. Bu'n rhaid atal y gêm wreiddiol ar ôl 83 munud o chwarae gydag Altrincham ar y blaen o 2-0 pan gafodd y dyfarnwr Mark Ackerman anaf.
Yn ôl rheolau'r gystadleuaeth mae'n rhaid i'r ddau dîm gytuno os oes dyfarnwr gwahanol yn dod i'r maes, ac fe wrthododd Bae Colwyn y ddau swyddog arall gafodd eu cynnig.
Doedd dim pedwerydd swyddog wedi cael ei benodi ar gyfer y gêm yn rownd ragbrofol olaf Tlws yr FA.
Roedd person yn y dorf oedd yn ddyfarnwr cymwys wedi cynnig cwblhau'r gêm, ond gwrthodwyd hynny gan Fae Colwyn gan honni bod y dyn wedi bod yn yfed alcohol.
Cynigiodd un o hyfforddwyr Altrincham, Ian Senior, i fod yn llumanwr, ond cafodd y cynnig yna hefyd ei wrthod gan y tîm cartref.
Nid oedd swyddogion yr ymwelwyr yn hapus gydag agwedd Bae Colwyn, a dywedodd cadeirydd Altrincham ar ddiwedd y gêm ei fod yn gobeithio y byddai'r Gymdeithas Bêl-droed yn gorchymyn i'r canlyniad gael ei gadarnhau.
Ond mynnodd rheolwr Bae Colwyn Frank Sinclair mewn cyfweliad gyda'r BBC fod ei glwb "o fewn eu hawliau" i beidio cwblhau'r gêm, a'i fod yn disgwyl iddi gael ei hail-chwarae.
Er yr ail gyfle, doedd y canlyniad ddim yn un boddhaol i Fae Colwyn gyda'r sgôr ar ddiwedd yr ail gêm yn union yr un peth ag yr oedd wedi 83 munud o'r un gyntaf.
Bydd Altrincham yn cwrdd â naill ai Brackley Town neu Leek Town yn rownd gyntaf go iawn y gystadleuaeth.