Dedfrydu Lladron banc Cyffordd Llandudno
- Published
Dedfrydwyd dau ddyn yn Llys y Goron, Caer, am ladrata o fanciau gan cynnwys un yng Nghyffordd Llandudno.
Roedd James Jago, 32, o Warrington, a Darren Foster 41, o Blacon, wedi pledio'n euog i ladrata ym Manc Barclays, Cyffordd Llandudno a Bank Nat West yn Middlewich Sir Gaer ym mis Mawrth ac Ebrill eleni.
Derbyniodd Jago dedfryd o garchar am chwe blynedd ac wyth mis a Foster 10 mlynedd am gyd-ladrata yn ogystal â pherchnogaeth o ddryll gyda'r bwriad o achosi trais a braw.
Roedd y ddau ohonynt wedi ymddangos yn y llys yn mis Hydref ac wedi pledio'n euog i'r troseddau.
Meddai'r swyddog ymchwilio, ditectif gwnstabl, Lousie Bunce o adran droseddol Heddlu Gogledd Cymru: "Hoffwn ddiolch i'r tystion a ddaeth ymlaen yn ystod yr ymchwiliad, ac rydym yn gobeithio bod y ddedfryd yma yn tawelu'r gymuned."
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Gorffennaf 2013
- Published
- 27 Mawrth 2013