Cwest yn dilyn marwolaeth dau mewn damwain awyren

  • Cyhoeddwyd
damwain awyren
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y ddamwain ym Maes Awyr Penarlâg

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dau gafodd eu lladd pan blymiodd awyren fechan i'r ddaear ym Maes Awyr Penarlâg yr wythnos ddiwethaf.

Mewn gwrandawiad byr yn Rhuthun, agorodd Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, y cwest i farwolaeth Gary Anthony Vickers, 58, a Kaye Clarke, 43.

Roedd y ddau yn dod o ardal Dingle Bank, Caer.

Cafodd y gwasanaethau brys ei galw i Faes Awyr Penarlâg ychydig wedi un o'r gloch brynhawn ddydd Gwener.

Y gred yw bod y ddau fu farw ar eu ffordd adref o Baris pan ddigwyddodd y ddamwain.

Mae adran ymchwiliadau damweiniau awyr yn trio darganfod beth ddigwyddodd a cafodd archwiliadiau post mortem eu cynnal yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Wrth ohirio'r cwest, dywedodd y Crwner bod disgwyl ymchwiliad helaeth i'r digwyddiad.