Lladrad yn nhŷ Garry Monk
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn nhŷ'r pêl-droediwr Garry Monk.
Cafodd nifer helaeth o bethau eu dwyn o gartref cyn gapten yr Elyrch gan gynnwys mwy nag un oriawr, gemwaith, offer cyfrifiadurol, ffonau symudol a bag chwaraeon gyda'i enw a'r rhif 16 arno.
16 yw rhif carfan Monk gydag Abertawe.
Mae'r heddlu'n credu i'r lladrad ddigwydd rhwng 9yb ddydd Gwener 15 Tachwedd a 2.45yh y dydd Llun canlynol.
Dywedodd y ditectif arolygydd Darren George o Adran Ymchwiliadau Troseddol Abertawe: "Rydym yn apelio i unrhyw un welodd ymwelwyr ar yr eiddo ddydd Gwener neu dros y penwythnos neu a welodd neu a glywodd rhywbeth amheus i ddweud wrthon ni.
"Fe wnaeth Garry a'i deulu golli llawer o eiddo oedd o werth sentimental mawr iddyn nhw yn dilyn y lladrad."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o fudd i'r heddlu gysylltu â nhw ar 101 neu ar Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2011