Damwain Ponthir: Dyn wedi marw

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 86 oed o Bonthir gafodd ei anafu mewn gwrthdrawiad yn y pentref yr wythnos ddiwethaf wedi marw.

Cafodd y dyn a menyw arall eu taro gan gar bychan glas cyn cael eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol.

Bu farw Joyce Drew, oedd yn hefyd yn 86, yn fuan wedyn ac mae Heddlu Gwent bellach wedi cadarnhau fod y dyn wedi marw hefyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger neuadd y pentref ar y B4236 Ffordd Caerllion am tua 7:30yh, ddydd Mercher diwethaf.

Mae dynes leol 20 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a nodi'r cyfeirnod 411 13/11/13.