100 o geffylau bellach wedi eu difa
- Cyhoeddwyd

Mae'r nifer o geffylau sydd wedi cael eu rhoi i lawr mewn safle ym Mro Morgannwg bellach wedi codi i dros gant.
Ddydd Iau diwethaf cyhoeddodd yr RSPCA fod 45 o geffylau wedi gorfod cael eu lladd gan eu bod mewn cyflwr o ddioddefaint.
Mae'r ffigwr hwnnw wedi mwy na dyblu erbyn hyn wedi i weithwyr o'r elusen asesu dros 400 o geffylau.
Cafodd anifeiliaid eraill gan gynnwys defaid, gwyddau a chŵn eu cymryd o'r safle.
Mae'r Gweinidog Adnoddau Naturiol, Alun Davies, wedi diolch i'r asiantaethau sydd wedi bod yn delio hefo'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel "sefyllfa sy'n peri gofid mawr".
'Amgylchiadau anodd'
"Wrth i'r sefyllfa ddatblygu rwyf wedi cael fy effeithio gan y cyflwr ofnadwy roedd y ceffylau wedi cael eu gadael ynddynt," meddai Mr Davies.
"Mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud ac er bod y sefyllfa wedi bod yn un ofidus mae'r sefydliadau cysylltiedig wedi gweithio gyda'i gilydd yn ddiflino mewn amgylchiadau anodd er mwyn gwarchod lles yr anifeiliaid hyn.
"Rydw i'n ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan drwy weithredu'n gyflym ac effeithiol er mwyn lleddfu dioddefaint y ceffylau yma a hoffwn dalu teyrnged i Gyngor Bro Morgannwg am eu hymateb cadarn i'r argyfwng."
Yn ogystal â'r RSPCA a'r cyngor mae gwarchodfa geffylau Redwings hefyd wedi bod yn cynorthwyo gyda'r gwaith.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2013