Cyhoeddi aelodau byrddau dinas-ranbarth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Economi Edwina Hart, wedi cyhoeddi aelodaeth Byrddau Dinas-Ranbarth De Ddwyrain Cymru a Bae Abertawe.
Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yw cadeirydd Bwrdd Dinas-Ranbarth De Ddwyrain Cymru. Bydd y cynghorydd, Russell Goodway, a'r Athro Colin Riordon, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yn ddirprwyon iddo.
Ym Mae Abertawe, arweinydd y Cyngor Sir lleol, David Phillips, fydd yn cadeirio. Bydd Mary Gravell o Gyngor Sir Caerfyrddin, a chadeirydd cwmni Cyfreithwyr JCP, Steve Penny, yn ddirprwyon.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mrs Hart bod "hon yn siwrne faith".
"Rwyf wedi fy nghalonogi gan y datblygiadau yn y misoedd diweddar. Yn y dinas-ranbarthau, rydym mewn cyfnod newydd, cyffrous o gydweithio i greu swyddi a sicrhau twf. Sefydlu byrddau'r dinas-ranbarthau yw'r cam nesaf yn y siwrne honno."
Mae sefydliad sy'n cynrychioli busnesau yng Nghymru wedi croesawu'r penodiadau.
Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru Emma Watkins: "Mae gan greu dinas ranbarthau yn de orllewin a de ddwyrain Cymru y potensial i ddatgloi twf lleol.
"Dylai ystyried anghenion dau o'r cytrefi mawr Cymreig gynyddu effeithlondeb a gwella atyniad y rhanbarthau fel llefydd i wneud busnes.
"Er mwyn cyflawni hyn mae angen i'r holl sectorau weithio gyda'i gilydd ac mae'n braf gweld cynrychiolaeth cryf o'r byd busnes ar y ddau fwrdd."