Cannoedd o dai fforddiadwy 'heb eu gosod'
- Cyhoeddwyd

Mae newidiadau i fudd-daliadau wedi arwain at drafferthion wrth osod tai ac fe allai atal cannoedd o gartrefi newydd rhag cael eu hadeiladu pob blwyddyn, yn ôl gwaith ymchwil.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC), sy'n cynrychioli cymdeithasai tai, yn honni bod problemau wrth osod 700 o dai ar draws y wlad.
Yr honiad yw nad yw rhai tenantiaid eisiau tai mwy oherwydd y byddan nhw'n colli cyfran o'u budd-dal os oes ystafelloedd gwely gwag ganddynt.
Dywedodd Llywodraeth y DU nad ydyn nhw'n gallu fforddio "talu i bobl fyw mewn eiddo mwy na'r hyn maen nhw angen".
Yn ôl amcangyfrif CCC, mae'r newidiadau dros y chwe mis cyntaf wedi costio dros £1 miliwn i'w haelodau - ac mae'n dweud bod hyn yn debygol o gael effaith ar fuddsoddi yn y dyfodol.
'Treth ystafell wely'
Roedd Llywodraeth y DU wedi cwtogi ar faint o fudd-dal oedd tenantiaid o oedran gweithio yn ei dderbyn yn Ebrill 2013.
Mae rhai oedd ag un ystafell wely ychwanegol wedi gweld gostyngiad o 14% i'r cyfraniad tuag at eu rhent, gyda rhai oedd a mwy nag un ystafell wag yn wynebu toriad o 25%.
Yn ôl CCC, mae'r mwyafrif o'i haelodau wedi gweld effaith y newidiadau wrth i rai tenantiaid gael trafferth talu rhent.
Mae'r rhai sy'n beirniadu polisi'r llywodraeth yn dweud nad yw hi wastad yn bosib i bobl ddod o hyd i eiddo sydd a llai o ystafelloedd, gan nad oes rhai ar gael ar y farchnad.
Mae cymdeithasau tai ledled Cymru yn dweud bod cyfanswm o 700 o dai sy'n anodd eu gosod oherwydd nad yw tenantiaid eisiau eiddo sydd â sawl ystafell wely.
'Effaith ddwbl'
Fe wnaeth ymchwil CCC ddarganfod hefyd fod 51% o'r tenantiaid sydd wedi gweld gostyngiad yn eu budd-dal yn talu'r gwahaniaeth eu hunain.
O'r gweddill, mae 37% yn talu cyfran ohono a dyw 12% ddim yn ei dalu o gwbl.
Mae rhybudd y bydd y ffaith fod cymdeithasau tai yn colli incwm oherwydd tai gweigion yn effeithio ar eu penderfyniadau buddsoddi.
Dywedodd Prif Weithredwr CCC, Nick Bennett: "Dim ond chwe mis ar ôl cyflwyno'r polisi ac rydym yn gweld effaith ddwbl yn gwaethygu'r argyfwng cyflenwad.
"Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y tai gwag ac mae 78% o'n haelodau wedi gweld cynnydd mewn pobl yn methu taliadau rent, gyda £1 miliwn o hynny oherwydd y 'dreth ystafell wely'."
Dyw Mr Bennett ddim yn credu bydd pethau'n gwella'n fuan.
Ychwanegodd: "Rydym yn rhagweld y bydd nifer y tenantiaid sy'n cael trafferth talu yn cynyddu, ac y bydd y diffyg mewn rhent yn cynyddu i £2 miliwn erbyn Ebrill 2014.
"Byddai hynny yn ddigon i wasanaethu dyled o tua £40 miliwn, a allai gael ei ddefnyddio i adeiladu 400 o dai fforddiadwy newydd.
"Gyda 90,000 ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol, sut allwn ni gyfiawnhau polisi sy'n golygu y bydd Cymru'n colli allan ar 1,000 o dai fforddiadwy?"
'Adfer tegwch'
Dyw Llywodraeth y DU ddim yn derbyn y feirniadaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'r newidiadau yn adfer tegwch i system oedd wedi mynd yn afreolus.
"Hyd yn oed wedi i ni gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr rydym yn parhau i dalu'r mwyafrif o rent hawlwyr budd-daliadau, ond ni all y trethdalwr barhau i dalu i bobl fyw mewn eiddo mwy na maen nhw ei angen.
"Mae'n iawn fod pobl yn cyfrannu tuag at y costau hyn, yn union fel mae rhentwyr preifat yn ei wneud.
"Rydym wedi gwneud £6.2 miliwn ar gael i gynghorau Cymru i gefnogi pobl fregus, gyda £880,000 ar gael i helpu pobl mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- 8 Tachwedd 2013
- 5 Medi 2013
- 7 Ebrill 2013