Canolfan gynadledda i Gasnewydd?
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun wedi'i gyhoeddi i sefydlu canolfan gynadledda o ansawdd rhyngwladol ar safle gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Y bwriad yw cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad yn 2014.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer y gwaith o baratoi'r cynllun - gwaith a fydd yn cael ei gwblhau gan reolwyr Celtic Manor o dan arweiniad y perchennog Syr Terry Matthews.
Pe bai'r cynllun yn cael ei wireddu, hon fyddai'r ganolfan fwyaf o'i bath yng Nghymru a de orllewin Lloegr.
Yn 2010, cynhaliwyd cystadleuaeth Cwpan Ryder yn y Celtic Manor, a'r mis diwethaf cyhoeddwyd mai yno y bydd lleoliad uwchgynhadledd Nato yn cael ei gynnal ym mis Medi 2014.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart: "Byddai'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol arfaethedig yn Celtic Manor yn gallu cystadlu o ran maint ac ansawdd gydag unrhyw leoliad cyffelyb ar draws y ffin, gan ddenu mwy o fusnes a phobl fusnes, gan gynnwys cynrychiolwyr rhyngwladol, i ardal dinas ranbarth de ddwyrain Cymru, a chynorthwyo i annog twf yn yr economi Gymreig."
Straeon perthnasol
- 31 Hydref 2013