Casnewydd 1-0 Braintree
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Casnewydd 1-0 Braintree
Roedd cic rydd hyfryd Robbie Willmott yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau lle Casnewydd yn ail rownd Cwpan FA Lloegr.
Teithiodd Braintree i Rodney Parade am y gêm ail chwarae yn dilyn y gêm gyfartal naw diwrnod yn ôl.
Aeth ergyd wych Willmott i gornel ucha'r rhwyd ychydig cyn yr egwyl.
Roedd y canlyniad yn adlewyrchu'r chwarae gan i Gasnewydd gael mwy o'r meddiant gydol y gêm.
Er hynny aeth cyfle gorau'r gêm i'r ymwelwyr, ond fe wastraffodd Matt Paine y cyfle gwych o chwe llath pan oedd hi'n ddi-sgôr.
Bu ond y dim i Adam Chapman ddyblu'r fantais gydag ergyd a orfododd arbediad campus gan Nick Hamann.
Fe fydd Casnewydd yn wynebu Kidderminster Harriers oddi cartref yn ail rownd y gystadleuaeth.